Sgema yn lansiad Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Awst 1, 2024

Sgema yn lansiad Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Awst 1, 2024

046 Lpip Launch

Mae Sgema yn hynod falch o gyhoeddi ein rhan yn lansiad Cymru Wledig LPIP Rural Wales mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ar 10 Gorffennaf 2024. Fel partner allweddol o’r tîm trefnu, roeddwn yn hapus iawn i weld cynifer o randdeiliaid a phartneriaid y prosiect yn mynychu, a’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd am y digwyddiad.

Roedd y gwesteion yn cynnwys academyddion, ymchwilwyr, gwleidyddion, llunwyr polisi ac arbenigwyr sector. Mae’r prosiect yn cynrychioli partneriaeth newydd rhwng prifysgolion, mentrau cymdeithasol, busnesau a llunwyr polisi sydd yn ymdrechu i ddatrys rhai o brif heriau cymunedau gwledig yng Nghymru. Nod y bartneriaeth yw gweld sut y gall ymchwil ac arloesi gysylltu gwahanol edeifion polisi ynghyd, gan wella dealltwriaeth o wir anghenion cymunedau cefn gwlad a sicrhau allbynnau academaidd ac ymarferol bydd yn sicrhau newid gwirioneddol ar lawr gwlad.

Gwelwn y bartneriaeth rhwng Sgema a’r LPIP yn un naturiol, gan fod cynifer o’n blaenoriaethau ni fel cwmni yn cael eu hadlewyrchu yn amcanion y cynllun. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddeg ardal awdurdod lleol sy’n ffurfio’r mwyafrif o gefn gwlad Cymru: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg ond hefyd yn cynnwys cymunedau gwledig mewn rhannau eraill o Gymru. Yn amlwg mae’r prosiect yn eang ei sgôp i’r graddau fod yna amrywiaethau enfawr economaidd, diwylliannol a daearyddol rhwng yr ardaloedd hyn, ac eto maent i wahanol raddau yn wynebu heriau tebyg wrth ystyried materion megis tai, gwaith, trafnidiaeth, isadeiledd, allfudo a mewnfudo, gofodau cymdeithasol a gwasanaethau lleol.

Gan fod modelau adfywiad economaidd confensiynol yn aml wedi ei selio ar waith sy’n ymwneud a threfi a chanolfannau poblogaeth sylweddol, mae dirfawr angen ymchwil sydd yn edrych ar sut y gellid sicrhau gwytnwch cymunedau gwledig sydd yn ystyried ffactorau megis poblogaeth wasgaredig, diffyg adnoddau cyhoeddus, natur busnesau bychan gwledig, a diffyg isadeiledd i ddenu a chadw buddsoddiad. Mae sicrhau twf tra hefyd yn gwneud yn siŵr fod lles cymdeithasol yn cael ei lawn ystyried yn hanfodol i’r rheini wrth lyw’r prosiect ynghyd a sicrhau fod amgylchedd, iaith a diwylliant y llefydd hyn yn cael sylw teg mewn oes lle mae annhegwch economaidd a newid hinsawdd yn bygwth newid ein ffordd o fyw.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Rhys Jones, un o arweinwyr y prosiect. Fe’i ddilynwyd gan Lywydd y Senedd Elin Jones AS, a wnaeth bwysleisio pwysigrwydd cefn gwlad a’i phobl i Gymru gyfan, a’i balchder i fod yn rhan o ddigwyddiad oedd yn blaenoriaethu anghenion cefn gwlad. Yna fe wnaeth Alice Taylor o UK Research and Innovation siarad am sut y mae’r LPIP yn rhan o ymdrechion ehangach o ddeall anghenion polisi ardaloedd gwahanol drwy ymchwil. Yn olaf, fe gafwyd cyflwyniad gan yr Athro Mike Woods, arweinydd y prosiect, ynghylch sut y bydd y prosiect yn gweithredu gan amlinellu’r holl edeifion gwaith gwahanol sydd yn ffurfio’r cynllun.

Wedi’r digwyddiad, dywedodd Mike Woods:

‘Rydym yn falch o allu bod wedi lansio Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn y Senedd ac yn diolch i Elin Jones AS am ein croesawu. Mae’r diddordeb a’r brwdfrydedd yr ydym wedi ei weld ar gyfer y fenter wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen i weithio ar y cyd a unigolion a sefydliadau ar draws y sector gyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector ynghyd ag Aelodau Senedd Cymru a’r Deyrnas Unedig i helpu ni ddatrys yr heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru.’

Dywedodd Meilyr Ceredig, Cyfarwyddwr Sgema:

‘Mae hwn yn brosiect sydd â photensial i wneud gwahaniaeth mawr ar lawr gwlad yn ein cymunedau. Mae cefn gwlad Cymru a’i ddyfodol yn greiddiol i bopeth yr ydym ni yn ei wneud fel busnes ac mae cael y cyfle i fod yn rhan o dîm mor dalentog i helpu i ddatrys rhai o broblemau pennaf yr ydym ni yn ei wynebu yng Nghymru wledig yr 21ain ganrif yn anrhydedd ac yn ein hysbrydoli fel tîm. Roedd y lansiad yn arwydd cadarnhaol o’r cydweithio creadigol bydd wrth wraidd y prosiect hwn a’r brwdfrydedd amlwg oedd i’w weld ymysg y cyfranogwyr yn hynod gyffrous. Mae tîm Sgema yn eiddgar i fod yn rhan o’r gwaith sydd i ddod ac i gyfrannu mewn modd ystyrlon i sicrhau llwyddiant y prosiect arloesol hwn.’

Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn @LPIPCymruWledig ar Twitter / X.

 

046 Lpip Launch
Share This