Mae cangen gyhoeddi Sgema wedi rhyddhau llyfr lluniau elusennol a gynhyrchwyd gan ffoaduriaid Palesteinaidd o Wersyll Ffoaduriaid Aida, Bethlehem. Bydd yr holl elw o’r gwaith yn cael ei roi i godi arian brys i SOS Children’s Villages Palestine.
Mae Y Bachgen a’r Wal yn llyfr lluniau teimladwy i blant wedi’i atgynhyrchu ar ffurf aml-ieithog (Arabeg, Saesneg, a Chymraeg) sy’n cynnig ffenestr i fywydau plant sy’n byw gyda heriau dadleoli ac sy’n adlewyrchiad twymgalon a dychmygus o wytnwch a gobaith.
Mae’r llyfr, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Amahl Bishara gyda delweddau collage gan bobl ifanc o Ganolfan Lajee, yn ymateb i’r wal wyth metr o uchder a adeiladwyd ger y gwersyll yn 2004, gan adlewyrchu breuddwydion a gwytnwch ieuenctid Palesteinaidd.
Mae’r holl gostau argraffu a chynhyrchu wedi’u rhoi’n rhad ac am ddim gan y cwmni gyda’i ailfeistroli gweledol wedi’i oruchwylio pro bono gan y dylunydd creadigol arobryn, Charlotte Hughes-Evans.
Daeth y prosiect i sylw tîm Sgema gan y bardd o fri rhyngwladol Menna Elfyn, Llywydd Wales PEN Cymru. Wrth sôn am y cyhoeddiad, anogodd y rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi’r apêl ddyngarol i brynu’r cyhoeddiad:
“Daeth y gwaith gwych i’m sylw yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru. Roeddwn mewn cysylltiad â’r ganolfan ac yn ymwybodol o’r prosiectau ysbrydoledig roeddn nhw’n eu cyflawni. Mae rhannu’r stori hon i blant nid yn unig yn cefnogi’r ymdrech ddyngarol i godi arian ond hefyd yn rhannu neges o obaith gan blant sy’n byw trwy ddadleoli a gwrthdaro.”
Mae Canolfan Lajee, sefydliad nid-er-elw a sefydlwyd ym 1999, yn annog creadigrwydd a meddwl beirniadol ymhlith plant y gwersyll, gan gynnig gofod diogel ar gyfer gweithgareddau sy’n amrywio o ddawnsio gwerin dabkeh i sgiliau cyfrifiadurol.
Mae’r llyfr, sydd wedi’i ailfeistroli’n weledol a’i gyfieithu i’r Gymraeg i gyd-fynd â’r Arabeg a’r Saesneg gwreiddiol, bellach ar gael i’w brynu ar-lein (Siop Sgema) ac mewn siopau dethol, gyda’r holl elw a godir yn cael ei roi i gronfeydd brys i gefnogi cymorth dyngarol ym Mhalesteina.
I ddysgu mwy am waith SOS Children’s Villages ym Mhalesteina, ewch i: SOS Children’s Villages Palestine. Ar hyn o bryd mae’r elusen yn gweithio ar lawr gwlad ar draws Palesteina, yn darparu gofal brys, cymorth iechyd meddwl, a chymorth ariannol i blant a theuluoedd bregus. Mae’r elusen hefyd yn hybu gwytnwch hirdymor, gan sicrhau bod plant sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd neu sydd mewn perygl o golli gofal yn cael cymorth hanfodol mewn amgylcheddau anogol.
I brynu Y Bachgen a’r Wal neu i ddysgu mwy, ewch i Siop Sgema.