Mae partneriaeth a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, y mae Sgema yn bartner arweiniol yn y diwydiant arni, wedi derbyn dros £5 miliwn o gyllid gan UKRI i ymchwilio ac archwilio atebion i heriau gwledig.
Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cysylltu ymchwilwyr, cymunedau, a llunwyr polisi i gefnogi datblygiad cynhwysol, cynaliadwy. Bydd ymchwilwyr a llunwyr polisi yn gweithio gyda chymunedau o bob rhan o Gymru wledig i archwilio atebion arloesol i amrywiaeth o heriau mawr a wynebir gan gymunedau gwledig, fel materion fel y “premiwm gwledig” ar dlodi.
Yn ei rôl fel cyd-gyfarwyddwr y prosiect, bydd Uwch Ymgynghorydd Sgema Meilyr Ceredig, yn arwain ar y gwaith o gysylltu, cyfathrebu ac ymgysylltu â busnesau.
Wrth sôn am y cyhoeddiad dywedodd:
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Athro Woods a phartneriaid ehangach er mwyn ceisio mynd i’r afael â materion cymhleth sy’n wynebu cymunedau gwledig yng Nghymru a thu hwnt. Materion yn ymwneud â’r ‘premiwm gwledig’ sy’n gwneud tlodi mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei wynebu mewn cyd-destun trefol, yn ogystal â heriau mawr sy’n ein hwynebu ni i gyd o gyrraedd sero net, adeiladu economi adfywiol, hyd at adfywio’r Gymraeg.”
Wedi’i hariannu gan UKRI, nod y bartneriaeth ymchwil yw llenwi bylchau tystiolaeth, archwilio atebion arloesol, a gwella’r defnydd o ymchwil i gefnogi polisïau effeithiol i feithrin ‘economi lles’.
Bydd yn canolbwyntio ar yr heriau o adeiladu economi adfywiol, cefnogi’r cyfnod pontio sero net, gwella iechyd, llesiant a mynediad at wasanaethau, a grymuso cymunedau a diwylliant, gan gynnwys adfywio’r Gymraeg.
Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, yr Athro Michael Woods:
“Mae Cymru wledig yn wynebu heriau sylweddol wrth dyfu ei heconomi, darparu swyddi a thai da i bobl leol, a chynnal gwasanaethau i sicrhau lles cymunedau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod ag arbenigedd o brifysgolion, busnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau ynghyd i weithio tuag at ddyfodol cynhwysol, cynaliadwy i’r rhanbarth.”
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Swydd Gaerloyw, ynghyd â phartneriaid yn cynnwys Antur Cymru, Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Datblygiadau Egni Gwledig, Represent Us Rural, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, Gyda’n Gilydd dros Newid, a’r partner diwydiant Sgema. Fe’i lluniwyd o dan fframwaith Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).
Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig yn un o bedair Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol a ariennir gan yr ESRC, gydag eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cefnogir y gwaith ymchwil gan gyllid Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) fel rhan o’i waith i greu cyfleoedd a gwella canlyniadau yn lleol.