Ailgysylltwch i gefnogi busnesau wedi eu lleoli yn Sir Gaerfyrddin a Ceredigion!
Mewn cam sylweddol tuag at hybu datblygiad economaidd a dathlu’r iaith Gymraeg fel adnodd economaidd hyfyw, mae GlobalWelsh, mewn partneriaeth a’r asiantaeth prosiectau creadigol Sgema, wedi lansio Hwb Cysylltiol Sir Gaerfyrddin a Ceredigion GlobalWelsh.
Wedi ei ariannu gan ARFOR, mae’r fenter hon yn ceisio ysgogi twf ac adfywiad economaidd ar draws rhanbarth Sir Gaerfyrddin a Ceredigion drwy gysylltu busnesau lleol a rhwydwaith rhyngwladol o filoedd o aelodau o’r Cymry ar wasgar sydd â sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i’w rhannu.
Mae Sir Gaerfyrddin a Ceredigion yn ardaloedd o Gymru sy’n gyfoethog eu huchelgais. Maent yn gartref i fusnesau cyffrous sydd wedi gweld llwyddiant rhyngwladol megis Huit Denim ac yn fwy diweddar, Delineate. Maent yn ardaloedd sydd yn gyflym yn dyfod yn fannau deniadol i egin fusnesau a busnesau rhyngwladol gan ddenu talent sydd am brofi popeth sydd gan Sir Gaerfyrddin a Ceredigion i’w gynnig o gyfleoedd swyddi i’r ffordd o fyw a’r tirlun.
Oes gennych chi gysylltiadau a Sir Gaerfyrddin neu Ceredigion?
Mae ymgysylltu a’r prosiect hwn yn ffordd wych o ddarganfod beth sydd gan Sir Gaerfyrddin neu Geredigion i’w gynnig i’r byd. Drwy ddod yn ‘Gysylltwr’ drwy GlobalWelsh, gallwch gefnogi’r prosiect yn y ffyrdd canlynol:
- Cysylltu â busnesau sydd yn edrych i ehangu eu rhwydweithiau rhyngwladol a gwneud cysylltiadau mewn marchnadoedd newydd neu gynnig cyngor i’r rheini sydd am dyfu
- Mentora arweinwyr busnes i’w cynorthwyo i wynebu newidiadau neu wynebu heriau presennol/cyfyngiadau twf
- Helpu i ddarganfod cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad yn y rhanbarth
Cymerwch ran
Os yw hyn o ddiddordeb i chi, cofnodwch eich diddordeb drwy e-bostio post@sgema.cymru.
Cymerwch gip ar y daflen wybodaeth sy’n dangos beth sydd gan y ‘Gorllewin Gwych’ i’w gynnig.