Cyhoeddwyd yr wythnos hon mai Sgema yw’r asiantaeth prosiectau creadigol cyntaf i dderbyn yr ardystiad Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Gan ddarparu amrywiaeth o ymchwil a datrysiadau cyfathrebu integredig ar gyfer cleientiaid ar draws Cymru mae’r gymeradwyaeth hon yn atgyfnerthu safle Sgema fel darparwr ymchwil ddwyieithog blaenllaw ynghyd a chefnogaeth cyfathrebu a marchnata i’w cleientiaid boed hwy yng Nghymru neu wrth weithio ar lefel y DU neu’n rhyngwladol.
Mae’r ardystiad Cynnig Cymraeg yn cydnabod busnesau sy’n darparu gwasanaethau iaith Gymraeg ac yn gydnabyddiaeth swyddogol gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rhoddir yn unig i sefydliadau sydd wedi gweithio gyda swyddfa’r Comisiynydd i ddatblygu a gweithredu gwasanaethau Cymraeg uchelgeisiol.
Mae hyn yn cynorthwyo cynllun hirdymor y comisiynydd i sicrhau fod pobl yn gallu defnyddio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau, ym mhob rhan o Gymru, wrth ddefnyddio pob gwasanaeth.
Yn siartredig gan y Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig (CIPR) a gan Sefydliad Marchnata Siartredig, dywedodd siaradwr iaith gyntaf ac uwch ymgynghorydd, Meilyr Ceredig:
“Mae sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn weladwy yn ein holl waith cyfathrebu o’r camau cynllunio cychwynnol ymlaen yn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer ein cleientiaid mewn modd sy’n taro nodyn gyda’u cynulleidfaoedd targed yn eu hiaith ddewisol. Gall negeseuon cael eu teilwra heb ddibynnu ar gyfieithu slafaidd a gallwn greu ymgyrchoedd unigryw, ynghyd a chefnogi ymhellach yr uchelgais o gefnogi a thyfu cyrhaeddiad yr iaith ym mhob rhan o fywyd. Rydym yn diolch i swyddogion Comisiynydd y Gymraeg am weithio gyda ni i sicrhau’r gymeradwyaeth hon ac rydym yn annog pob busnes sy’n weithredol yng Nghymru i ddechrau eu taith tuag at y nod hwn.”
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffydd Jones, ei bod wrth ei bodd gydag egwyddor Sgema gan ddweud:
“Mae cynllun y Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth ynghylch eu gwasanaethau iaith Gymraeg fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd. Fel Comisiynydd y Gymraeg fy mhrif nod yw i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg. Byddwn felly yn gweithio gyda Sgema i annog cwmnïau eraill sy’n darparu gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a materion cyhoeddus yng Nghymru i fynd amdani a cheisio cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg.”
I ddysgu mwy am gymorth iaith Gymraeg Sgema, cysylltwch â ni drwy: post@sgema.cymru.