Cefnogi’r Ganolfan Ddeialog yng Ngŵyl y Gelli

Gorffennaf 8, 2024

Cefnogi’r Ganolfan Ddeialog yng Ngŵyl y Gelli

Gor 8, 2024

Hay Festival Hay On Wye 2023 Site

Fe wnaeth Sgema lansio tymor haf o ymgysylltu a rhanddeiliaid a mynychu gwyliau drwy gynorthwyo Canolfan Ddeialog (The Dialogue Centre) Prifysgol Aberystwyth i gynnal tair sesiwn ddiddorol yng Ngŵyl y Gelli 2024.

Roedd y sesiynau yn gyfle i drafod gweithdrefnau democrataidd arloesol, Deiseb Heddwch Menywod Cymru, a materion o bwys ynghylch cadwraeth bioamrywiaeth. Roeddwn wedi’n cyffroi i allu helpu’r Ganolfan Ddeialog a bod yng nghanol y trafodaethau pwysig hyn yn y Gelli eleni ac rydym yn edrych ymlaen at ddilyn y sgyrsiau diddorol a’r cydweithio a ddaw o ganlyniad i’r sesiynau hyn.

Os hoffech wybod beth arall yr ydym wedi bod yn ei wneud dros yr haf neu os hoffech sgwrs ynghylch prosiectau allgymorth neu ymgysylltu posib, cysylltwch â ni. Mae Sgema yn darparu gwasanaethau cyfathrebu ac allgymorth ar draws Cymru, o ymgyrchoedd wedi eu teilwra i gynulleidfa benodol i brosiectau allgymorth cymunedol ac ymgysylltu a rhanddeiliaid ar raddfa eang. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dwyieithog i gleientiaid sy’n gwerthfawrogi gwaith pwyllog, proffesiynoldeb diduedd a gwasanaeth effeithiol. Ymwelwch â’r adran ‘Amdanom ni’ ar ein gwefan i ganfod sut y gallwn eich helpu gyda’ch prosiectau.

Mae’r tîm bellach yn brysur yn paratoi ar gyfer nifer o lansiadau a digwyddiadau wrth i ni gyrraedd tymor yr haf, o lansiad Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn y Senedd ym mis Gorffennaf i weithgareddau yn y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Hay Festival Hay On Wye 2023 Site
Share This