Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2024, mae tîm Sgema yn falch o gyhoeddi mai SOS Children’s Villages bydd ein helusen y flwyddyn yn 2025. Yn y flwyddyn sy’n dod, bydd ein ffocws ar gefnogi gwaith hanfodol SOS Children’s Villages ym Mhalesteina.
Mae’r gwrthdaro parhaus yn y rhanbarth wedi cael effaith trychinebus ar blant a theuluoedd gan achosi dadleoli eang, trawma a cholled o adnoddau hanfodol. Mae SOS Children’s Villages ar y ddaear ar draws Palesteina (yn Gaza a’r Llain Orllewinol) yn darparu cymorth brys lle sydd ei angen fwyaf. Drwy gefnogi’r Gronfa Argyfwng mae tîm Sgema yn ceisio cefnogi gwaith SOS Children’s Villages ar y ddaear i ddarparu:
- Gweithredu cyflym sy’n achub bywydau: mae’r cymorth yn caniatáu SOS Children’s Villages i ymateb yn syth i’r argyfwng, gan ddarparu gofal brys a gwarchodaeth lle mae’r angen mwyaf amdano.
- Cefnogwch y plant sydd o dan fwyaf o fygythiad: mae’r Gronfa Argyfwng yn blaenoriaethu plant sydd heb ofal rhieni, neu’r rheini sydd mewn peryg o’i golli, gan sicrhau eu bod yn derbyn cymorth angenrheidiol yn ystod argyfyngau.
- Adeiladu gwytnwch hirdymor: tu hwnt i gymorth yn syth, mae cyfraniadau yn helpu plant, teuluoedd a chymunedau sy’n gwella ac yn paratoi am heriau’r dyfodol, gan feithrin sefydlogrwydd hir dymor.
Ynghyd a darparu cymorth dyngarol uniongyrchol i’r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf a phlant wedi eu gwahanu i osgoi gwahanu pellach, mae cyllid hefyd yn sicrhau gwasanaethau gofal argyfwng i blant ar ben ei hunain neu wedi eu gwahanu rhag eu teuluoedd, gan gynnwys eu hadnabod, eu cofrestru a’u gosod mewn amgylcheddau diogel a chymhorthol.
Mae eu gwaith ehangach yn cynnwys Cymorth Iechyd Meddwl a Seicogymdeithasol (MHPSS), yn enwedig i blant a’r rheini sydd yn rhoi gofal er mwyn eu helpu i ymdopi a thrawma a thrallod emosiynol. Mae’r sefydliad hefyd yn darparu cymorth ariannol i deuluoedd sy’n wynebu trafferthion, gan gynnwys aelwydydd a menywod yn ben arnynt ac ieuenctid.
Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Sgema Meilyr Ceredig:
“Wedi i mi gefnogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan SOS Children’s Villages yn Rafa dros y blynyddoedd diwethaf –sydd bellach wedi ei ail leoli i SOS Children’s Villages ym Methlehem – rwyf yn hyderus fod ymgyrch codi arian ehangach Sgema ar gyfer SOS Children’s Villages yn 2025 yn cael ei wario’n dda ar y ddaear lle mae’r angen mwyaf amdano.
“Yn hanfodol, mae cyfraniadau SOS Children’s Villages yn mynd i’r afael ac anghenion brys ac adferiad hir dymor. Maent yn adeiladu gwytnwch ac yn creu newid parhaol i’r rheini sydd ei angen fwyaf.”
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein gweithgareddau codi arian cyntaf i gefnogi ein Helusen y Flwyddyn 2025. Cadwch olwg am ddiweddariadau ar sut i ymuno a ni i gefnogi’r achos gwerthfawr hwn.