Y Bachgen a’r Wal

Awdur: Amahl Bishara a Nidal al-Azraq

Lluniwyd y llyfr hwn gan y bobl ifanc yng Nghanolfan Lajee yng Ngwersyll Ffoaduriaid Aida ger dinas Bethlehem yn y Llain Orllewinol ym Mhalesteina. Cafodd ei greu fel ymateb i’r ‘Wal’ a adeiladwyd tu allan i’r ganolfan gan Lywodraeth Israel o 2004 ymlaen.

(gan gynnwys postio o fewn y DU)
Ar gyfer archebion mawr mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol ar post@sgema.cymru

£7.99

Mewn stoc

SKU: 1335-5564-123 Categori:

Lluniwyd y llyfr hwn gan y bobl ifanc yng Nghanolfan Lajee yng Ngwersyll Ffoaduriaid Aida ger dinas Bethlehem yn y Llain Orllewinol ym Mhalesteina. Cafodd ei greu fel ymateb i’r ‘Wal’ a adeiladwyd tu allan i’r ganolfan gan Lywodraeth Israel o 2004 ymlaen.

Mae’n stori am sut y mae’r wal gwahanu wedi effeithio bywydau'r bobl sy’n byw yng Ngwersyll Ffoaduriaid Aida ac yn fyfyrdod llawn dychymig ar ymateb plentyn i’r wal.

Mae Y Bachgen a’r Wal, a ysgrifennwyd gan Amahl Bishara ac sydd â darluniau gan blant Lajee, wedi ei atgynhyrchu fel cyhoeddiad amlieithog (Arabeg; Saesneg; Cymraeg) gyda’r holl elw yn cael ei roi i elusen y flwyddyn Sgema: SOS Children’s Villages Palestine.

“Fel Bardd Plant Cymru bûm mewn cysylltiad â’r bobl ifanc yn y Ganolfan a’u prosiectau clodwiw. Bydd holl elw'r adargraffiad amlieithog hwn yn cael ei roi i elusen benodedig sy’n gweithio ym Mhalesteina.”
- Menna Elfyn, Bardd ac Awdur

Adolygiadau

Nid oes adolygiadau eto.

Be the first to review “Y Bachgen a’r Wal”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *