Galw’r Cymry ar wasgar sydd â chysylltiadau a Sir Gaerfyrddin a Ceredigion

Awst 15, 2024

Galw’r Cymry ar wasgar sydd â chysylltiadau a Sir Gaerfyrddin a Ceredigion

Awst 15, 2024

Aberaeron, Ceredigion, Cymru (wales) Gorllewin Cymru Forol Sac Special Areas Of Conservation 82

Ailgysylltwch i gefnogi busnesau wedi eu lleoli yn Sir Gaerfyrddin a Ceredigion!

Mewn cam sylweddol tuag at hybu datblygiad economaidd a dathlu’r iaith Gymraeg fel adnodd economaidd hyfyw, mae GlobalWelsh, mewn partneriaeth a’r asiantaeth prosiectau creadigol Sgema, wedi lansio Hwb Cysylltiol Sir Gaerfyrddin a Ceredigion GlobalWelsh.

Wedi ei ariannu gan ARFOR, mae’r fenter hon yn ceisio ysgogi twf ac adfywiad economaidd ar draws rhanbarth Sir Gaerfyrddin a Ceredigion drwy gysylltu busnesau lleol a rhwydwaith rhyngwladol o filoedd o aelodau o’r Cymry ar wasgar sydd â sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i’w rhannu.

Mae Sir Gaerfyrddin a Ceredigion yn ardaloedd o Gymru sy’n gyfoethog eu huchelgais. Maent yn gartref i fusnesau cyffrous sydd wedi gweld llwyddiant rhyngwladol megis Huit Denim ac yn fwy diweddar, Delineate. Maent yn ardaloedd sydd yn gyflym yn dyfod yn fannau deniadol i egin fusnesau a busnesau rhyngwladol gan ddenu talent sydd am brofi popeth sydd gan Sir Gaerfyrddin a Ceredigion i’w gynnig o gyfleoedd swyddi i’r ffordd o fyw a’r tirlun.

Oes gennych chi gysylltiadau a Sir Gaerfyrddin neu Ceredigion?

Mae ymgysylltu a’r prosiect hwn yn ffordd wych o ddarganfod beth sydd gan Sir Gaerfyrddin neu Geredigion i’w gynnig i’r byd. Drwy ddod yn ‘Gysylltwr’ drwy GlobalWelsh, gallwch gefnogi’r prosiect yn y ffyrdd canlynol:

  • Cysylltu â busnesau sydd yn edrych i ehangu eu rhwydweithiau rhyngwladol a gwneud cysylltiadau mewn marchnadoedd newydd neu gynnig cyngor i’r rheini sydd am dyfu
  • Mentora arweinwyr busnes i’w cynorthwyo i wynebu newidiadau neu wynebu heriau presennol/cyfyngiadau twf
  • Helpu i ddarganfod cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad yn y rhanbarth

Cymerwch ran

Os yw hyn o ddiddordeb i chi, cofnodwch eich diddordeb drwy e-bostio post@sgema.cymru.

Cymerwch gip ar y daflen wybodaeth sy’n dangos beth sydd gan y ‘Gorllewin Gwych’ i’w gynnig.

 

 

Aberaeron, Ceredigion, Cymru (wales) Gorllewin Cymru Forol Sac Special Areas Of Conservation 82
Share This