Mae Sgema yn falch i gyhoeddi fod yr hwb cyflogadwyedd, a ddatblygwyd ar y cyd gyda phrifysgolion Cymru ac a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, wedi ennill y wobr genedlaethol AGCAS ar gyfer Rhagoriaeth wrth Adeiladu Partneriaethau Effeithiol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ddathliad o’n gwaith cydweithredol i ddatblygu’r e-Hwb, adnodd ar-lein sy’n cynorthwyo myfyrwyr o grwpiau sy’n llai tebygol o fynychu’r Brifysgol. Fel rhan o’r prosiect, fe wnaeth Sgema gynnal ymgyrch cyfryngau integredig, gan gynnwys pecynnau offer a chyhoeddi ar draws amrywiaeth o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, i sicrhau ymgysylltu a chefnogaeth eang.
Dywedodd y beirniaid:
‘Mae’r bartneriaeth glodwiw hon yn amlwg yn cael effaith trawsnewidiol ar fyfyrwyr a graddedigion. Mae graddfa’r gwaith cyd-weithio ar draws sawl sefydliad a’r elfen ddigidol yn wirioneddol drawiadol.’
Lansiwyd yr e-Hwb ym mis Rhagfyr 2023 ac mae modd cael mynediad ato drwy cyflogadwyedd.cymru ac employability.wales. Mae’r platfform yn pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a’r byd proffesiynol. Mae’n grymuso myfyrwyr i symud yn hyderus o’r brifysgol i’w meysydd gyrfa.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau ein gwaith gyda phrifysgolion yng Nghymru i gynnal yr e-Hwb, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac wedi ei ddiweddaru wrth iddo esblygu a thyfu gan ddarparu cefnogaeth amhrisiadwy i fyfyrwyr. Gallwch ddarllen datganiad i’r wasg ynghylch y gwobrau ar wefan AGCAS.